Pwy ydym ni
Crëwyd Encilfa Tyddyn gan Romy Shovelton, Cyfarwyddwr Wikima. Dechreuodd Wikima fasnachu’n ffurfiol ym 1992, gan ganolbwyntio ar yr arfer arbenigol sydd ohoni o ymgysylltu’n ddwfn mewn sefydliadau a chymunedau.
Adeiladwyd Wikima ar sylfeini profiad rhyngwladol blaenorol y sylfaenydd, Romy Shovelton, o gynllunio strategol, marchnata a hysbysebu – o fewn sefydliadau a hefyd fel cyfarwyddwr yn y busnes hysbysebu byd-eang, J Walter Thompson.
Rydym ni’n falch o weithio gydag amrywiaeth ragorol o gleientiaid, o blith cyrff y sectorau preifat a chyhoeddus a chyrff anllywodraethol. Mae enghreifftiau o’r gwaith i’w gweld yn www.wikima.com. Ymhlith ceisiadau nodweddiadol mae meithrin dull o alinio arweinyddiaeth; mynd i’r afael â gwrthdaro, boed yn hirsefydlog neu’n newydd; ffordd strategol a chadarn o feddwl a chynllunio strategol cyfranogol; newid diwylliannau e.e. ar gyfer uno cwmnïau, cydweithredu a phartneriaethau; creu partneriaethau gweithredol â nifer o randdeiliaid; gwir ymgysylltu â’r gymuned.
Roedd 2007 yn un garreg filltir arwyddocaol, pan enillodd Wikima’r tendr i gyflawni prosiect dwy flynedd sylweddol ar ran llywodraeth ynys Aruba yn y Caribî. Trwy feithrin gallu sefydliadau lleol y sectorau cyhoeddus a phreifat ac unigolion, fe gynorthwyodd Wikima Aruba i newid system gynllunio gyffredinol y llywodraeth er mwyn:
- Integreiddio elfennau amrywiol y llywodraeth
- Seilio cynlluniau at y dyfodol ar ddatblygu cynaliadwy
- Cynnwys ac ymgysylltu â phobl Aruba.
Gwnaeth y Sefydliad Ymgynghorwyr Busnes ddethol y prosiect hwn i fod yn rownd derfynol Prosiect Rhyngwladol Gorau 2009.
Yn fwy diweddar, mae Wikima wedi llwyddo i dderbyn cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer prosiect tair blynedd yn gweithio gyda phobl ifanc 14 a 15 oed sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Cynlluniwyd y prosiect hwn yn wreiddiol gan Romy Shovelton, ac mae’n cael ei redeg gydag Adviza (sef Connexions Thames Valley gynt).
Mae Encilfa Tyddyn yn estyniad o waith Wikima gyda sefydliadau, cymunedau ac unigolion, ac mae hefyd ar gael i’r rheiny sydd eisiau cael gwyliau mewn amgylchedd arbennig iawn.
Y newyddion diweddaraf
Lleoliad unigryw gyda llety a man cyfarfod ysbrydoledig – ar gyfer gweithdai, cynadleddau bach, cyfnodau encilio ar gyfer arweinwyr.
Naws moethus gyda’r eco-safonau uchaf a manion ychwanegol – cawod stêm, sawna personol, gwasanaeth tylino...